8/7/2025

GWCT-led Curlew Connections project takes flight in Wales

By Sue Evans, Policy Director for Wales

In response to: Welsh Government: Curlew conservation project takes flight!

Common Curlew And Chicks www.davidmasonimages.com“It was great to have the Deputy First Minister Huw Irranca-Davies out at the Curlew Connections project, which we at GWCT Cymru are leading on working in partnership with Bannau Brycheiniog National Park Authority and Clwydian Range National Landscape.

“He saw the work that is being done to tackle the key issues driving the low breeding success of curlew across Wales, one of which being the predation of eggs and chicks. Predation management is key when you are approaching extinction of a species, as every egg, chick or fledgling lost has a significant impact on the survival of that species.

“Predation poses a significant threat to curlew at all stages of the breeding season, driven largely by high densities of generalist predators within the landscape.

“When curlew and other ground-nesting birds return to having a healthy thriving population, the need to control predators will become less critical.”

Come and find out more about the Curlew Connections project at our GWCT stand at the Royal Welsh Show on Wednesday when all the partners will be there to answer questions and there will be a panel discussion from 2-3pm.

Curlew Connections Wales is a wader conservation project supported by Welsh Government’s Nature Networks Fund, delivered by the Heritage Lottery Fund. £1 million has been allocated to support breeding curlew across Wales.

It aims to tackle the key issues driving the low breeding success of curlew in Wales, monitoring and understanding curlew populations, implementing nest protection, predator management and habitat works.

With breeding curlew predicted to be extinct in Wales by 2033, an important aspect of the project is to connect the landscape and people to these iconic birds.

A team of dedicated Curlew and People Officers work closely with farmers, landowners and land managers, and volunteers to improve the fledging success of local populations of curlew throughout Wales.

Cyfarwyddwr Polisi Cymru GWCT, Sue Evans yn ymateb i:

Prosiect cadwraeth y gylfinir yn hedfan!  Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ar brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru a gaiff ei arwain gan GWCT

 "Roedd yn wych cael y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies allan ar gyfer prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, prosiect yr ydym ni yma yn GWCT Cymru yn ei arwain mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd. 

"Gwelodd y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n effeithio ar bridio’r gylfinir ledled Cymru, un ohonynt yw ysglyfaethu wyau a chywion. Mae rheoli ysglyfaethu yn allweddol pan fydd rhywogaeth yn agosáu at ddiflannu, gan fod pob wy neu gyw a gollir yn cael effaith sylweddol ar oroesiad y rhywogaeth honno.

“Mae  ysglyfaethu yn fygythiad sylweddol i'r Gylfinir ym mhob cam o'r tymor bridio, wedi'i yrru'n bennaf gan ddwysedd uchel o ysglyfaethwyr cyffredinol yn y dirwedd.

"Pan fydd gylfinir ac adar eraill sy’n nythu ar y ddaear yn dychwelyd i fod â phoblogaeth ffyniannus iach, bydd yr angen i reoli ysglyfaethwyr yn dod yn llai hanfodol."

Dewch i ddarganfod mwy am brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru yn  stondin GWCT yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher (23 Gorffennaf) pan fydd yr holl bartneriaid yno i ateb cwestiynau a bydd trafodaeth banel rhwng 2pm a 3pm.

LLUN

Mae Cysylltu Gylfinir Cymru yn  brosiect cadwraeth ar gyfer yr adar hirgoes. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae miliwn o bunnoedd wedi'u dyrannu i gefnogi gylfinir sy’n bridio ledled Cymru.

Ei nod yw mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n arwain at lwyddiant isel bridio’r gylfinir yng Nghymru, monitro a deall poblogaethau’r gylfinir, gweithredu camau i amddiffyn nythod, rheoli ysglyfaethwyr a gwaith ar gynefinoedd.

Rhagwelir y bydd y gylfinir bridio yn diflannu yng Nghymru erbyn 2033, felly agwedd bwysig o’r prosiect yw cysylltu'r dirwedd a'r bobl â'r adar eiconig hyn.

Mae tîm o Swyddogion Gylfinir a Phobl ymroddedig yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir, a gwirfoddolwyr i wella llwyddiant poblogaethau lleol y gylfinir ledled Cymru.

Comments

Make a comment