Ymgynghoriad: ar yr angerdd dros saethu helgig Cymreig a'r manteision sy'n deillio o hynny i fywyd gwyllt

Shooting Syndicate

Ar hyn o bryd mae pwysau mawr ar saethu o grwpiau megis Wild Justice, wrth iddynt herio Trwyddedau Cyffredinol.

Yng Nghymru yn benodol, gwaharddodd y Gweinidogion saethu ar dir cyhoeddus, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi argymell na ddylid ei wahardd o ganlyniad i'r dystiolaeth wyddonol a gyflwynwyd yn bennaf gan GWCT. Mae'n bwysig bod y rheini sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bolisi a rheoleiddio yn deall pam mae saethu'n bwysig i chi.

Mae gennym ni yn GWCT y dystiolaeth wyddonol i ddangos yr effaith llesol a gaiff saethu ar natur. Ond beth am gymunedau a diwylliant? Rydym am i chi ddweud wrthym pam mae saethu, curo a chasglu yn rhan mor bwysig o'ch bywyd drwy gwblhau yr arolwg byr hwn.

Mae rhan o'm tysteb yn cynnwys sut mae fy meibion 12 a 13 oed yn angerddol am saethu ac maent wrth eu boddau yn mynd i guro ar ddydd Sadwrn. Mae'n mynd â ni i gyd allan o'r tŷ mewn tywydd dychrynllyd yn y gaeaf ac rydym yn cerdded milltiroedd sy'n helpu i'n cadw ni'n heini. Rhannwch eich tystebau yma am eich angerdd dros saethu a'r buddiannau a geir ohono, fel y gallwn rannu eich tystiolaeth ynghyd â'n gwyddoniaeth.

Mae 12 cwestiwn a ddylai gymryd llai na 10 munud i’w hateb. Bydd yr holl ymatebion wedi'u gwneud yn ddienw. Diolch am eich cymorth.

Cymryd arolwg >